Mae Courthouse Entertainments Ltd T / A, The Old Courthouse, yn deall fod eich preifatrwydd yn bwysig i chi a bod ots gennych am sut mae eich data personol yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn parchu a gwerthfawrogi preifatrwydd pawb sy'n ymweld â'r wefan hon, www.theoldcourthouse.org.uk , byddwn dim ond yn casglu a defnyddio data personol mewn ffyrdd a ddisgrifir yma, ac mewn ffordd sy'n gyson â’n dyletswyddau a’ch hawliau o dan y gyfraith.

 

Darllenwch y Polisi Preifatrwydd yma’n ofalus a sicrhewch eich bod yn ei ddeall. Mae’r tudalen lanio www.theoldcourthouse.org.uk yn gofyn i chi dderbyn y Polisi Preifatrwydd yma.

 

1. Gwybodaeth Amdanom Ni

Mae ein gwefan yn cael ei weithredu gan ac yn eiddo Courthouse Entertainments Ltd, cwmni cyfyngedig wedi’i gofrestru yn Lloegr - rhif cwmni 11549117.

Cyfeiriad cofrestredig: The Old Courthouse, Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom, LL55 2AY.

Prif gyfeiriad masnachu: The Old Courthouse, Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom, LL55 2AY.

Rhif TAW: 308 1803 24.

Swyddog Diogelu Data: Moira Hartley.

Cyfeiriad e-bost: moira.hartley@theoldcourthouse.org.uk

Rhif ffôn:

Cyfeiriad post: The Old Courthouse, Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom, LL55 2AY.

 

2. Beth Mae’r Polisi Yma’n Cynnwys?

Mae'r Polisi Preifatrwydd yma’n berthnasol i'ch defnydd o'n gwefan ni yn unig. Gall ein gwefan gynnwys linciau i wefannau eraill. Plîs nodwch nad oes gennym reolaeth dros y ffordd caiff eich data ei gasglu, ei gadw na’i ddefnyddio gan wefannau eraill ac rydym yn eich cynghori i ddarllen polisïau preifatrwydd unrhyw wefannau o'r fath cyn rhoi unrhyw ddata iddynt.

 

3. Beth Yw Data Personol?

Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (Rheoliad UE 2016/679) (y "RhDDC") a’r Ddeddf Diogelu Data 2018 (gyda'i gilydd, "Deddfwriaeth Diogelu Data") yn diffinio data personol fel unrhyw wybodaeth sy’n gysylltiedig â pherson y gellir ei hadnabod, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn enwedig drwy gyfeirio at adnabyddwr.

Data personol, mewn termau syml, ydi unrhyw wybodaeth amdanoch chi sy'n galluogi chi i gael eich adnabod. Mae data personol yn cynnwys gwybodaeth amlwg fel eich enw a'ch manylion cyswllt, ond mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth lai amlwg fel rhifau adnabod, data lleoliad, ac adnabyddwyr ar-lein eraill.

 


4. Beth yw fy hawliau?

O dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol, a byddem o hyd yn gweithio i’w gadw:

 1.Yr hawl i gael gwybod am ein casgliad a'n defnydd o'ch data personol. Dylai'r Polisi Preifatrwydd yma ddweud wrthych bopeth rydych angen gwybod, ond fe allwch chi wastad gysylltu â ni i ddarganfod mwy neu i ofyn unrhyw gwestiynau drwy ddefnyddio'r manylion yn Rhan 12.

2.  Yr hawl i gael gweld y data personol yr ydym yn cadw amdanoch chi. Bydd Rhan 11 yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

3.  Yr hawl i gael cywiro eich data personol os ydi unrhyw ddata personol sydd gennym ni amdanoch chi yn anghywir neu'n anghyflawn. Plîs cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion yn Rhan 12 i ddarganfod mwy.

4. Yr hawl i gael eich anghofio am, h.y. yr hawl i ofyn i ni ddileu neu gael gwared ag unrhyw ddata personol yr ydym yn ei gadw amdanoch. Plîs cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion yn Rhan 12 i ddarganfod mwy.

5. Yr hawl i gyfyngu ar (h.y. atal) rhag prosesu eich data personol.

6. Yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data personol at bwrpas penodol.

7. Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl. Mae hyn yn golygu, os ydym ni’n dibynnu ar eich caniatâd chi fel sail gyfreithiol i ddefnyddio eich data personol, gallwch dynnu'n ôl y caniatâd yma ar unrhyw adeg.

8  Yr hawl i gludo data. Mae hyn yn golygu, os ydych chi wedi rhoi data personol i ni yn uniongyrchol, yr ydym yn ei ddefnyddio gyda'ch caniatâd neu ar gyfer cyflawni cytundeb, a pan fydd y data yn cael ei brosesu drwy ddefnyddio dulliau awtomataidd, gallwch ofyn i ni am gopi o'r data personol hwnnw i ailddefnyddio gyda gwasanaeth neu fusnes arall mewn sawl achos.

9. Hawliau'n ymwneud â gwneud penderfyniadau a phroffilio yn awtomataidd. Nid ydym yn defnyddio'ch data personol fel hyn. Am ragor o wybodaeth am ein defnydd o'ch data personol neu arfer eich hawliau fel yr amlinellir uchod, plîs cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion a ddarperir yn Rhan 12.

Mae'n bwysig bod eich data personol yn cael ei gadw'n gywir ac yn ddiweddar. Os bydd unrhyw ran o'r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi'n newid, plîs gadwch i ni wybod cyn hired â bod gennym y data hwnnw.

Gellir hefyd gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gan y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth neu'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth lleol.

Os oes gennych unrhyw le i gwyno am ein defnydd o'ch data personol, mae gennych yr hawl i wneud cwyn gyda’r Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth. Fodd bynnag, er hynny byddem yn croesawu'r cyfle i ddatrys eich pryderon ein hunain, felly plîs cysylltwch â ni yn gyntaf, drwy ddefnyddio'r manylion yn Rhan 12.

5. Pa Ddata Ydych Chi'n Ei Gasglu a Sut?

Gan ddibynnu ar eich defnydd o'n gwefan, hwyrach byddem yn casglu a chadw rhywfaint o neu’r holl wybodaeth bersonol [ac amhersonol] a nodir yn y tabl isod, drwy ddefnyddio'r dulliau a nodir yn y tabl hefyd. Nid ydym yn casglu unrhyw ddata personol 'categori arbennig' na 'sensitif' NA data personol sy'n ymwneud â phlant NA data sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a / neu droseddau.

Data sy’n cael ei Gasglu

Sut ydym ni’n Casglu’r Data

Gwybodaeth Hunaniaeth yn cynnwys: enw a chyfeiriad e-bost

www.theoldcourthouse.org.uk

 

6. Sut Ydych Chi'n Defnyddio Fy Nata Personol? O dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mae'n rhaid i ni bob amser fod gyda sail gyfreithlon i ddefnyddio data personol. Mae'r tabl canlynol yn disgrifio sut y gallem ddefnyddio'ch data personol, a'n seiliau cyfreithlon ar gyfer gwneud hynny:

 

Beth rydym yn ei wneud

Pa Ddata Rydym Yn Ei Ddefnyddio

Ein Sail Gyfreithlon

Cofrestru Chi ar Ein Gwefan.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Gweinyddu Ein Gwefan.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Gweinyddu Ein busnes.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Darparu Ein [cynhyrchion] A / NEU [gwasanaethau] i chi.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Rheoli taliadau ar gyfer Ein [cynhyrchion] A / NEU [gwasanaethau].

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Personoli a gweddu Ein [cynhyrchion] A / NEU [gwasanaethau] i chi.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Cyfathrebu gyda chi.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

Rhoi gwybodaeth i chi trwy [e-bost] A / NEU [post] yr ydych wedi optio i mewn i dderbyn. Gallwch chi optio allan ar unrhyw adeg trwy e-bostio ni.

Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, cyfeiriad post.

Caniatâd.

 

Gyda'ch caniatâd a / neu fel y caniateir gan y gyfraith, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch data personol i bwrpasau marchnata, a allai gynnwys cysylltu â chi drwy e-bost A / NEU [ffôn] A / NEU [neges destun] A / NEU [post] gyda gwybodaeth, newyddion, a chynigion ar Ein [cynhyrchion] A / NEU [gwasanaethau]. Ni fydd unrhyw farchnata anghyfreithlon na sbam yn cael ei anfon i chi. Byddem bob amser yn gweithio i ddiogelu yn llwyr eich hawliau ac ufuddhau i’n dyletswydd o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebiadau Electronig (Cyfarwyddeb y CE) 2003, a byddwch bob amser yn cael y cyfle i optio allan. Byddem bob amser yn cael eich caniatâd pendant optio i mewn cyn i ni rannu'ch data personol gyda thrydydd parti i bwrpasau marchnata a byddwch yn gallu optio allan ar unrhyw adeg.

Byddem yn defnyddio eich data personol yn unig i’r pwrpas (au) y cafodd ei gasglu'n wreiddiol oni bai ein bod yn credu'n rhesymol fod pwrpas arall yn cyd-fynd â'r pwrpas hwnnw neu'r pwrpas (au) gwreiddiol hynny ac rydym ni angen defnyddio'ch data personol at y pwrpas hwnnw. Os ydym yn defnyddio'ch data personol yn y ffordd yma ac rydych chi'n dymuno i ni egluro sut mae'r pwrpas newydd yn cyd-fynd â'r gwreiddiol, plîs cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion yn Rhan 12.

Os rydym angen ddefnyddio eich data personol i bwrpas nad yw'n gysylltiedig na’n cyd-fynd â'r pwrpas (au) y cafodd ei gasglu'n wreiddiol, byddwn yn gadael i chi wybod ac egluro'r sail gyfreithiol sy'n caniatáu i ni wneud hynny.

Mewn rhai amgylchiadau, lle y caniateir neu sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith, gallem brosesu eich data personol heb i chi wybod a heb eich caniatâd. Bydd hyn yn cael ei wneud yn unig o fewn terfynau'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data a'ch hawliau cyfreithiol.

 

7. Pa Mor Hir Fyddwch Chi'n Cadw Fy Nata Personol?

Ni fyddwn yn cadw eich data personol am fwy nag sy'n angenrheidiol yn cymryd i ystyriaeth y rheswm / rhesymau dros ei gasglu yn gyntaf. Felly, bydd eich data personol yn cael ei gadw am y cyfnodau canlynol (neu, lle nad oes cyfnod penodol, bydd y ffactorau canlynol yn cael eu defnyddio i benderfynu pa mor hir bydd yn cael ei gadw):

 

Math o Ddata

Pa Mor Hir Rydym Yn Ei Gadw

Gwybodaeth Hunaniaeth gan gynnwys Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post.

Byddem yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyn hired â'ch bod yn gwsmer.

Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys Enw, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad post ..]

Byddem yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyn hired â'ch bod yn gwsmer.

 

8. Sut a Lle Ydych chi'n Cadw neu Drosglwyddo Fy Nata Personol? Byddem dim ond yn cadw neu drosglwyddo’ch data personol yn y DU. Mae hyn yn golygu y bydd wedi ei ddiogelu yn llwyr o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

 

9. Ydych Chi'n Rhannu Fy Nata Personol?

Ni fyddem yn rhannu dim o'ch data personol ag unrhyw drydydd parti am unrhyw bwrpas, yn amodol ar yr eithriad [au] canlynol. Os ydym yn gwerthu, trosglwyddo, neu gyfuno rhannau o'n busnes neu asedau, gall eich data personol gael ei drosglwyddo i drydydd parti. Gall unrhyw berchennog newydd o'n busnes barhau i ddefnyddio'ch data personol yn yr un ffordd / ffyrdd yr ydym wedi'i ddefnyddio, fel y nodwyd yn y Polisi Preifatrwydd yma.

Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, efallai y byddem yn ofynnol yn ôl y gyfraith i rannu rhai data personol, a allai gynnwys un chi, os ydym yn cymryd rhan mewn achosion cyfreithiol neu ufuddhau i ddyletswyddau cyfreithiol, gorchymyn llys, neu gyfarwyddiadau awdurdod llywodraeth.

 

10. A allaf i dal yn ôl gwybodaeth? Fe allwch chi ymweld â [ambell ran o] Ein Gwefan heb ddarparu unrhyw ddata personol o gwbl. [Fodd bynnag, i ddefnyddio'r holl nodweddion a gweithrediadau sydd ar gael ar Ein Gwefan efallai y bydd angen i chi gyflwyno neu ganiatáu casgliad data penodol.]

 

11. Sut Alla I Gael Mynediad I'm Data Personol?

Os ydych chi eisiau gwybod pa ddata personol sydd gennym amdanoch chi, gallwch ofyn i ni am fanylion o’r data personol hwnnw ac am gopi ohono (ble mae unrhyw ddata personol o'r fath yn cael ei chadw). Gelwir hyn yn "gais mynediad pwnc".

Dylid gwneud pob cais mynediad pwnc yn ysgrifenedig a'i anfon at yr e-bost neu'r cyfeiriadau post a welir yn Rhan 12.

 

 

12 Sut Ydw I'n Cysylltu  Chi?

I gysylltu â ni am unrhyw beth sy'n ymwneud â'ch data personol a diogelu data, gan gynnwys gwneud cais mynediad pwnc, plîs defnyddiwch y manylion canlynol [(ar gyfer sylw Moira Hartley)]:

Cyfeiriad e-bost: info@theoldcourthouse.org.uk.

Rhif ffôn: 07768 286226.

Cyfeiriad post: The Old Courthouse, Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, United Kingdom, LL55 2AY.

 

13. Newidiadau i'r Polisi Preifatrwydd yma

Efallai byddwn yn newid yr Hysbysiad Preifatrwydd yma weithiau. Efallai bod hyn yn angenrheidiol, er enghraifft, os yw'r gyfraith yn newid, neu os ydym yn newid Ein busnes mewn ffordd sy'n effeithio ar ddiogelu data personol

 

Bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn syth ar Ein Gwefan a ystyrir eich bod wedi derbyn amodau'r Polisi Preifatrwydd ar eich defnydd cyntaf o'n Gwefan yn dilyn y newidiadau. Rydym yn eich annog i wirio'r dudalen yma’n gyson i gael eich diweddaru. Diweddarwyd y Polisi Preifatrwydd hwn diwethaf ar 9fed Ionawr 2019.

 

 

Moira Hartley Director

 Tel: 01286 239 010

email: info@theoldcourthouse.org.uk

 

Courthouse Entertainments Ltd

The Old Courthouse

Castle Ditch

Caernarfon

LL55 2AY

 

 

The Old Courthouse Ltd is a trading name of Courthouse Entertainments Ltd and is a company registered in England and Wales. Registered number: 11549117. Registered office: The Old Courthouse, Castle Ditch, Caernarfon, LL55 2AY, Wales. The content of this email is confidential and intended for the recipient specified in message only. It is strictly forbidden to share any part of this message with any third party, without a written consent of the sender. If you received this message by mistake, please reply to this message and follow with its deletion, so that we can ensure such a mistake does not occur in the future